Archifau Cymunedol Cymru - Cymru Ni

Mae Archifau Cymunedol Cymru yn cydweithio â grwpiau o fewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ledled Cymru i greu archifau cymunedol digidol. Casgliadau o ddeunydd mewn dwylo preifat yw’r rhain, sydd wedi’u digido a’u dehongli gan grwpiau cymunedol, sy’n galluogi’r cymunedau i gyflwyno’u hanesion eu hunain yn eu geiriau eu hunain.

Mae Archifau Cymunedol Cymru wedi dod ag unigolion o grwpiau gwahanol o ran oed ac iaith at ei gilydd, ac ennyn parch a hunaniaeth ynddynt yn eu treftadaeth leol. Mae’r prosiect hefyd yn cyfrannu at adfywiad cymunedau difreintiedig gan gynnig sgiliau TG gwerthfawr i gyfranogion sy’n cynyddu cyflogadwyedd ac yn eu galluogi.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae’r grwpiau, gyda chymorth ein Swyddogion Prosiect, Richard, Paul, Siân a Stefan, wedi bod yn gosod eu hanesion arlein ac mae’r wefan, www.cymruni.org.uk, erbyn hyn yn cynnwys dros 2,000 o ddelweddau. Mae mwy yn cael eu hychwanegu’n wythnosol.

O Sgowtiaid Troed-y-rhiw a merched Bôn-y-maen, a chymunedau gwledig Nantlle a Chwmystwyth, cymerwch olwg ar y wefan i weld cynnyrch eu llafur dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r prosiect wedi bod yn rhedeg ers mis Mawrth 2007 ac fe fydd yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2008. Mae tîm y prosiect yn brysur chwilio am arian er mwyn sicrhau dyfodol y prosiect hwn.

This archive entry was last updated on 01/06/2014. Information incorrect or out-of-date?
Add an archive
Do you know a community archive that isn't in our list? Please add it.